020 8575 0237
info@ygll.co.uk

Addysg Grefyddol

Addysg Grefyddol

Dyma ragor o wybodaeth am ein darpariaeth Addysg Grefyddol yn Ysgol Gymraeg Llundain.

Bwriad

Yn Ysgol Gymraeg Llundain, rydym yn dilyn y sylabws a gytunwyd arno yn Ealing ar gyfer Addysg Grefyddol. Caiff cynlluniau eu mapio yn ôl cysyniadau, megis symbolau, addoliad, yr unigolyn, credoau a gweithredoedd. Mae ein haddysgu yn agored ac yn fyfyriol; mae’r plant yn cael eu hannog i rannu eu profiadau, ac maen nhw’n mwynhau gwneud hynny. Rydym ni’n dathlu holl grefyddau’r plant a chredoau di-grefydd. Mae’r plant yn frwdfrydig ac yn awyddus i ddysgu mwy am brofiadau addolwyr eraill. Rydym ni’n ymdrechu i hyrwyddo agwedd gadarnhaol a pharch at ein gilydd yn y sesiynau hyn. Rydym ni hefyd yn annog y defnydd o athroniaeth i greu dysgu dyfnach drwy ddefnyddio dadlau a thrafodaeth o fewn gwersi Addysg Grefyddol.

Drwy ein cynllun addysg grefyddol o waith, ein bwriad yw:

  • Datblygu caffael gwybodaeth a dealltwriaeth y plant o Gristnogaeth, Iddewiaeth, Islam a Hindŵaeth, ynghyd â chrefyddau eraill megis Bwdhaeth a Siciaeth.
  • Datblygu dealltwriaeth y plant o gysyniadau gan ddefnyddio geirfa gyfoethog a thechnegol, arteffactau a straeon o safon.
  • Annog y plant i fod yn barod i drafod a deall y berthynas rhwng credoau ac arferion.
  • Dod o hyd i gyfleoedd i gofio ac ailedrych ar ddysgu blaenorol ar draws y camau cynnydd. Drwy ailymweld, bydd plant yn dysgu’r ffeithiau allweddol am y crefyddau yn Ealing, ac wrth iddynt symud drwy’r grwpiau blwyddyn, rydym ni’n annog taith ddysgu haenog ddofn wrth iddynt adeiladu ar eu gwybodaeth.
  • Dathu gwahanol grefyddau cymuned yr ysgol drwy Ddiwrnod Crefydd y Byd, gwersi Addysg Grefyddol a gwasanaethau.
  • Annog y plant i rannu eu profiadau o’u crefydd mewn man diogel, fel cymryd rhan mewn gwyliau crefyddol a dathliadau neu ddefodau fel Shabbat neu ymweld ag addoldai.
  • Hyrwyddo goddefgarwch, empathi, cyd-barch, a chwilfrydedd wrth ddysgu am gysyniad newydd neu gysyniad crefyddol.
  • Hyrwyddo Gwerthoedd Prydeinig megis parch a goddefgarwch drwy wasanaethau.

Gweithredu

Mae cynllunio ar gyfer addysg grefyddol yn cwmpasu addysgu geirfa o ansawdd uchel, defnyddio arteffactau o ansawdd a rhannu straeon a thestunau. Dechreuwn bob gwers drwy edrych eto ar ddysgu blaenorol gan ofyn i’r plant rannu eu profiadau eu hunain pryd bynnag y bo modd. Mae cwestiynu ar lefel uchel o fewn ein hunedau yn annog siarad disgyblion.

Er mwyn cyflawni ein cwricwlwm addysg grefyddol byddwn yn:

  • Cynllunio gwersi o ansawdd uchel sy’n cynnwys cwestiynu lefel ddyfnach
  • Defnyddio straeon ac arteffactau yn effeithiol i greu atgofion ac atgyfnerthu dysgu
  • Defnyddio ystod o gyfleoedd trawsgwricwlaidd, megis o fewn y Celfyddydau Mynegiannol, er mwyn helpu plant i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy i gofio ac atgyfnerthu eu gwybodaeth grefyddol
  • Ymgorffori agweddau ar athroniaeth sy’n hyrwyddo meddwl ar lefel ddyfnach, defnyddio siarad yn effeithiol i fynd i’r afael â chamsyniadau a hyrwyddo chwilfrydedd ymhlith y plant mewn gofod diogel
  • Arddangos digwyddiadau crefyddol drwy’r flwyddyn fel Diwali, Eid, Chanukah mewn gwasanaethau

Traweffaith

O gynllun gwaith Addysg Grefyddol sy’n greadigol, diddorol a meddylgar, mae gan blant wybodaeth ddiogel am wahanol grefyddau, y ffigurau cysylltiedig o bwysigrwydd a chredoau, defodau, arferion a dathliadau. Byddan nhw’n gallu cymharu a gwrthgyferbynnu gwahanol grefyddau a byw heb ragfarn oherwydd eu dealltwriaeth o pam mae pobl yn cyflawni’r arferion hyn. Byddan nhw’n oratoriaid hyderus sy’n gallu mynegi eu syniadau am bob crefydd mewn modd parchus. Byddan nhw’n blant goddefgar sy’n chwilfrydig am eraill ac yn mwynhau byw mewn rhan amrywiol a diddorol o Lundain. Mae’r effaith i’w gweld yn y llyfrau llawr, arddangosfeydd a’u gallu i drafod a sgwrsio am eu profiadau eu hunain.

Mesurir effaith ein cynllun gwaith addysg grefyddol trwy:

  • Y plant yn siarad yn frwdfrydig am eu crefydd yn y dosbarth a llais y disgybl
  • Allu’r plant i ailymweld a chofio cysyniadau a sgiliau allweddol
  • Eu gallu i ddefnyddio geirfa dechnegol sy’n faes benodol yn fanwl gywir
  • Allu’r plant i wneud cysylltiadau â dysgu blaenorol yn y maes hwn

Asesu

  • Gwneir asesiad yn ffurfiannol o fewn yr ystafell ddosbarth trwy holi
  • Mae athrawon yn teilwra eu cwestiynau i hyrwyddo lefel ddyfnach o feddwl ac yn cynllunio’n helaeth ar gyfer hyn
  • Mae llyfrau llawr Addysg Grefyddol yn adlewyrchu cyrhaeddiad a chynnydd y plant
  • Plant yn hunan-asesu eu gwaith eu hunain yn ogystal ag asesu cyfoedion eraill

Ewch i’n tudalen Polisïau i ddarllen ein Polisi Addysg Grefyddol.