020 8575 0237
info@ygll.co.uk

Cyfnod Sylfaen y Blynyddoedd Cynnar

Cyfnod Sylfaen y Blynyddoedd Cynnar

Yn Ysgol Gymraeg Llundain, mae plant yng Ngham Cynnydd 1 yn dilyn Fframwaith Cyfnod Sylfaen y Blynyddoedd Cynnar, sef y cwricwlwm statudol i bob plentyn o dan bump oed yn Lloegr.

Ym mlynyddoedd cynnar y dysgu, mae plant yn dysgu orau pan fyddan nhw’n profi dysgu drostynt eu hunain, drwy ryngweithio ystyrlon â phlant eraill ac oedolion cefnogol, drwy weithgaredd corfforol a thrwy ddysgu ar sail chwarae. Yn Ysgol Gymraeg Llundain, gwyddom fod plant yn dysgu orau pan fyddant yn dangos nodweddion addysgu a dysgu effeithiol. Dyma’r ymddygiad y mae plant yn ei arddangos pan maen nhw’n dysgu’n ystyrlon:

Chwarae ac Archwilio – Cael lefelau uchel o ymgysylltu a bod yn barod i ‘roi cynnig arni’.
Dysgu Gweithredol – Cael eu cymell a dangos gwydnwch.
Creu a Meddwl yn Feirniadol – Datblygu syniadau, strategaethau a gwneud cysylltiadau eu hunain.

Wrth weithredu fframwaith Cyfnod Sylfaen y Blynyddoedd Cynnar yn Ngham Cynnydd 1, ein huchelgais yw gweld plant o dan bump yn arddangos yr ymddygiadau hyn bob amser. Rydym yn annog plant i wneud hyn drwy hyrwyddo egwyddorion cyffredinol Cyfnod Sylfaen y Blynyddoedd Cynnar drwy’r meysydd dysgu a datblygu.

Tudalennau perthnasol: