020 8575 0237
info@ygll.co.uk

Gwerthoedd Prydeinig

Gwerthoedd Prydeinig

Dyma ragor o wybodaeth am sut rydym ni’n hyrwyddo Gwerthoedd Prydeinig yn Ysgol Gymraeg Llundain.

Mae’r Adran Addysg wedi nodi’r angen “i greu a gorfodi disgwyliad clir a thrylwyr ar bob ysgol i hyrwyddo gwerthoedd Prydeinig sylfaenol, sef democratiaeth, y gyfraith, rhyddid unigol a pharch a goddefgarwch i’r rhai sydd â gwahanol grefyddau a chredoau.”

Mae Llywodraeth y DU yn esbonio ei diffiniad o werthoedd Prydeinig yn y ‘Prevent Strategy’ (2011), ac mae’r gwerthoedd hyn wedi’u hailadrodd yn fwy diweddar.

Democratiaeth

Mae gan ein hysgol Fwrdd Cyfarwyddwyr sy’n cefnogi’r Athro Arweiniol wrth redeg yr ysgol a chynllunio’n strategol. Mae’r grŵp yma’n cynnwys aelod y mae’r rhieni wedi pleidleisio drosto. Mae’r Bwrdd Cyfarwyddwyr yn pleidleisio ac mae ganddo’r grym i gadarnhau penderfyniadau a pholisïau.

Yn flynyddol, mae plant yn sefyll dros, ac yn cael eu hethol i Senedd yr Ysgol gan eu cyfoedion. Mae Senedd yr Ysgol yn cwrdd yn rheolaidd ac yn gwneud penderfyniadau ac yn cynllunio gweithgareddau ar gyfer y plant y maen nhw’n eu cynrychioli.

Gwahoddir rhieni yn aml i leisio eu barn ar wahanol faterion ysgol. Mae Bwrdd y Cyfarwyddwyr a’r Athro Arweiniol yn ystyried eu hymatebion wrth gynllunio’r ffordd ymlaen i’r ysgol.

Ceisir llais disgyblion drwy ddulliau gwahanol drwy gydol y flwyddyn academaidd, e.e. ar ddechrau cyd-destun dysgu newydd.

Goddefgarwch

Mae goddef a chroesawu unigolion o wahanol grefyddau (gan gynnwys y rhai sy’n dilyn dim ffydd), diwylliannau, treftadaeth ethnig a grwpiau economaidd-gymdeithasol yn cyfoethogi ein teulu ysgol drwy ehangu ein gorwelion ac archwilio ein cyffredineddau.

Y Gyfraith

Atgyfnerthir pwysigrwydd deddfau a rheolau, boed y rhai sy’n rheoli’r dosbarth, yr ysgol neu’r wlad, yn gyson drwy gydol y diwrnod ysgol, wrth ymdrin ag ymddygiad a thrwy wasanaethau ysgol.

Ar ddechrau pob blwyddyn academaidd mae pob dosbarth yn ymwneud â datblygu eu set eu hunain o ‘reolau’, gan alluogi’r disgyblion i gymryd rhan mewn sut y daw penderfyniadau a chyfreithiau i fodolaeth o dan system ddemocrataidd.

Addysgir y gwerth a’r rheswm y tu ôl i’r deddfau sy’n ein rheoli a’n diogelu, y cyfrifoldeb y mae hyn yn ei osod arnom a’r canlyniadau pan fydd deddfau’n cael eu torri.

Archwilir rolau penodol mewn cymdeithas, sy’n ymwneud â’r gyfraith, mewn gwahanol gyd-destunau ar dysgu a phynciau.

Parch

Mae parch wrth wraidd ein holl werthoedd. Mae plant yn dysgu bod eu hymddygiad yn cael effaith ar eu hawliau eu hunain a hawliau pobl eraill. Mae disgwyl i bob aelod o gymuned yr ysgol drin ei gilydd gyda pharch. Mae disgwyl i aelodau staff fod yn fodelau rôl da bob amser. Mae parch a derbyn gwahaniaeth yn ymddangos yn rheolaidd fel canolbwynt gwasanaethau, addoliad a myfyrdod.

Mae goddef a chroesawu unigolion o wahanol grefyddau (gan gynnwys y rhai sy’n dilyn dim ffydd), diwylliannau, treftadaeth ethnig a grwpiau economaidd-gymdeithasol yn cyfoethogi ein teulu ysgol drwy ehangu ein gorwelion ac archwilio ein cyffredineddau.

Rhyddid

O fewn yr ysgol, mae disgyblion yn cael eu hannog yn frwd i wneud dewisiadau – gan wybod eu bod mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Fel ysgol rydym yn addysgu ac yn darparu ffiniau i ddisgyblion ifanc wneud dewisiadau diogel drwy ddarparu amgylchedd diogel ac addysg sy’n grymuso.

Mae disgyblion yn cael eu hannog i wybod, deall a rhoi eu hawliau a’u rhyddid personol ar waith er enghraifft drwy ABGI a gwersi diogelwch ar-lein.

Yn Ysgol Gymraeg Llundain, byddwn ni’n mynd ati i herio disgyblion, rhieni neu staff sy’n mynegi barn yn groes i Werthoedd Prydeinig sylfaenol, gan gynnwys safbwyntiau eithafol.

Ewch i’n tudalen Polisïau i ddarllen ein Polisi Addysg Ysbrydol, Foesol, Gymdeithasol a Diwylliannol.